Vladimir Putin, arlywydd Rwsia
Mae awyrennau rhyfel Rwsia wedi treulio ail ddiwrnod yn ymosod o’r awyr ar dargedau yn Syria – gyda rhai’n honni eu bod yn anelu at wrthryfelwyr sy’n derbyn cefnogaeth gan yr Unol Daleithiau.

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Rwsia wedi cyhoeddi heddiw fod 12 o dargedau yn Syria, o eiddo’r mudiad eithafol IS, wedi’u taro, yn cynnwys canolfan reoli a dwy storfa fomiau.

Mae cymaint ag ugain o awyrennau Su-25M a Su-25 wedi bod yn rhan o’r cyrchoedd ddoe a heddiw, ac mae Rwsia yn mynnu nad oes pobol ddiniwed wedi’u targedu.

Fe ddechreuodd Rwsia ymosod o’r awyr mewn cefnogaeth i lywodraeth Syria ddoe, ac mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn galw’r gweithreu’n rhan o’r gweithredu yn erbyn gwrthryfelwyr IS.