Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio cronfa “Arloesi Digidol” heddiw mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a NESTA, sef elusen sy’n annog pobol i arloesi er mwyn “dod â’u syniadau’n fyw”.
Mae’r rhaglen yn un hollol newydd a’i nod yw helpu sefydliadau celfyddydol i ddefnyddio technoleg mewn modd arloesol er mwyn “cyrraedd cynulleidfaoedd newydd”.
Mae’r gronfa’n werth £350,000 i gyd a fydd yn cael ei rhannu i’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Bydd Cyngor y Celfyddydau hefyd yn paru’r ymgeiswyr hynny â “phartner technegol addas” iddyn nhw er mwyn ei helpu i ddatblygu eu prosiectau technegol, gyda’r cyfan oll yn aros yng Nghymru.
Eisiau clywed gan y rhai na chafodd nawdd
Mae’r rhaglen yn agored i bob sefydliad celfyddydol yng Nghymru ac mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan y sefydliadau hynny na chafodd nawdd ganddyn nhw fel rhan o’i Adolygiad Blynyddol a chafodd ei gyhoeddi wythnos yn ôl.
Wrth wneud cais, mae’r Cyngor am glywed am yr “heriau a’r cyfleoedd” sy’n wynebu sefydliadau heddiw a nodi sut gallan nhw “elwa” o ddefnyddio technoleg ddigidol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Rhagfyr 2016.