Mae nofel newydd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru’n cael ei chyhoeddi heddiw, bum mlynedd ers ei nofel ddiwetha’ i oedolion.
Mae Caryl Lewis yn dychwelyd at y math o gymdeithas wledig oedd yn ei nofel fwya’ llwyddiannus, Martha, Jac a Sianco.
Ond yr ysbrydoliaeth y tro yma, meddai, oedd yr angen i dynnu sylw at ffordd o fyw sy’n cael ei cholli ac mae gan un cymeriad dinesig ran canolog yn y stori.
‘Braf dod yn ôl’
“Er fy mod i wedi bod yn sgwennu dramâu a phethau i blant, mae’n braf cael dod nôl i sgwennu nofelau i oedolion achos dyna fy nghariad cyntaf i,” meddai Caryl Lewis wrth golwg360.
Ac er ei bod hefyd yn ôl yng nghefn gwlad, mae’n gwrthod cael ei labelu yn awdures wledig.
“Dw i ddim yn hoffi pan fydd pobl yn categoreiddio awduron i rai dinesig a rhai gwledig, gall pobl sgwennu be bynnag maen nhw mo’yn!” meddai.
“Mae cymeriad o’r tu allan yn dod i aros ar y fferm gyda dau gymeriad gwledig iawn, ac mae e’n dysgu am ffordd o fyw’r wlad a’r mynydd.”
“Colli ffordd o fyw” yn ysbrydoli
Y cefndir i berthynas y tri chymeriad yw’r tir mynyddig, amaethyddol, ac fel Martha, Jac a Sianco, mae Y Bwthyn yn cynwys symboliaeth gref o fyd natur drwy wead y nofel.
A thrwyddi draw, mae’n codi cwestiynau am barhad ffordd o fyw gwledig, ymdeimlad o berthyn, Cymreictod a “deuoliaeth y profiad Cymreig” – sef y ddinas a chefn gwlad.
“R’yn ni’n colli’r ffordd fynyddig o fyw, ac mae hynny’n golled fawr oherwydd ei chymuned, ei diwylliant a’i hieithwedd, roeddwn am dynnu sylw at hyn a dyna be ysbrydolodd fi i’w sgwennu,” meddai Caryl Lewis.