Mumbai
Mae pump o bobol wedi cael eu dedfrydu i farwolaeth am ladd 188 o bobol mewn cyfres o ffrwydradau ar drenau ym Mumbai yn 2006.

Mae saith o bobol eraill wedi cael eu carcharu am oes.

Cafodd 800 o bobol eu hanafu yn sgil yr ymosodiadau.

Roedden nhw wedi’u canfod yn euog gan lys o lofruddio a chynllwynio i ddechrau rhyfel yn erbyn llywodraeth India.

Ffrwydrodd saith o fomiau dros gyfnod o ddeng munud yn ystod oriau brig yn y ddinas sy’n gartref i ganolfannau ariannol ac adloniant India.

Dywed erlynwyr mai gwasanaethau cudd-wybodaeth Pacistan oedd wedi trefnu’r ymosodiadau a bod grŵp Lashkar-e-Taiba yn gyfrifol am y ffrwydradau ynghyd â Mudiad Myfyrwyr Islamaidd India, sy’n fudiad anghyfreithlon.

Mae Pacistan wedi gwadu’r honiadau.

Dywed cyfreithwyr ar ran yr amddiffyniad eu bod nhw’n bwriadu apelio yn erbyn pob dedfryd.

Daeth yr euogfarnau ar ddiwedd achos llys oedd wedi para mwy na saith mlynedd.

Cafwyd un person yn ddieuog oherwydd nad oedd digon o dystiolaeth yn ei erbyn.

Cafodd dau o bobol eraill oedd yn cael eu hamau o fod â rhan yn y ffrwydradau eu lladd gan heddlu India, yn ôl yr awdurdodau.