Fe fydd Llywodraeth Prydain yn gwario £25 miliwn i adeiladu carchar newydd yn Jamaica fel bod cannoedd o droseddwyr o dramor yn gallu cael eu hanfon adref i’r Caribî yn hytrach na chwblhau eu dedfrydau yn y DU.

Mae’r prosiect wedi cael ei gytuno er mwyn ceisio datrys y broblem o drafodaethau hirfaith dros fargen trosglwyddo carcharorion rhwng y ddwy wlad.

Mae mwy na 600 o bobl o Jamaica dan glo ym Mhrydain ond nid ydyn nhw’n gallu cael eu hanfon yn ôl yno oherwydd pryderon am amodau gwael mewn carchardai ar yr ynys. Fe allai hynny arwain at her lwyddiannus o dan y gyfraith hawliau dynol.

Dywed swyddogion y gallai arbed £10 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr pan fydd y carcharorion yn dechrau cael eu trosglwyddo yn 2020.

Caethwasiaeth

Mae David Cameron, sydd ar ymweliad a’r Caribî, wedi rhoi addewid o gymorth o £200 miliwn tuag at isadeiledd yn y wlad er mwyn hybu cysylltiadau gyda’r rhanbarth. Mae disgwyl i gwmnïau yn y DU gystadlu i adeiladu ffyrdd, porthladdoedd a phontydd yno.

Ond mae disgwyl i rôl hanesyddol Prydain yn y fasnach gaethwasiaeth daflu cysgod dros ei ymweliad gyda galwadau ar y Prif Weinidog i ymddiheuro.

Mae Prif Weinidog Jamaica  Portia Simpson Miller wedi dweud ei bod wedi codi’r mater dadleuol yn ystod trafodaethau gyda David Cameron yn Kingston.

Mae un Aelod Seneddol yn Jamaica hefyd wedi bygwth boicotio araith David Cameron yn Senedd y wlad os nad yw’n crybwyll y mater.

Ond mae David Cameron wedi ymateb drwy ddweud ei fod am ganolbwyntio ar y dyfodol.

“Mae’r ymweliad yma’n ymwneud a’n perthynas yn y dyfodol a’r hyn ddylwn ni fod yn gwneud gyda’n gilydd yn economaidd o ran masnach a buddsoddiad a’r arian sylweddol ar gyfer isadeiledd rwy’n ei gyhoeddi,” meddai.

“Felly dyna yw pwrpas yr ymweliad, sef trafod y dyfodol.”