Mae’r bythau pleidleisio wedi agor yn Catalunya ar gyfer ethol aelodau i’r senedd ranbarthol.

Gobaith y pleidiau cenedlaethol yno yw cipio mwyafrif o’r seddau er mwyn hawlio annibyniaeth oddi wrth weddill Sbaen.

Mae llywodraeth ganolog Sbaen wedi gwrthod yr hawl i Catalunya gynnal refferendwm ar annibyniaeth, ar y sail mai dim ond llywodraeth Sbaen sydd â’r hawl i gynnal pleidlais gyfansoddiadol o’r fath.

Mewn ymateb i hyn, mae pleidiau cenedlaethol Catalunya yn dadlau y byddan nhw wedi cael mandad democrataidd am annibyniaeth os byddan nhw’n llwyddo i gipio 68 neu fwy o’r 135 o seddau yn y senedd yn Barcelona.

Fe allai canlyniad o’r fath arwain at ddatganiad annibyniaeth ganddyn nhw.

Dywed llywodraeth Sbaen, fodd bynnag, y bydd yn defnyddio pob dull cyfreithiol i rwystro Catalunya rhag torri’n rhydd, gan ddadlau y byddai annibyniaeth yn golygu gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal.

Ymysg y sylwebwyr rhyngwladol yn yr etholiad heddiw mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb.

“Fe fydd gweld y modd y mae’r ddadl am ddyfodol Catalonia yn datblygu trwy gyfrwng y blwch pleidleisio yn hynod ddiddorol,” meddai.

“Yr hyn sy’n allweddol yw bod yr etholiad yn amlwg yn adlewyrchu safonau uchaf y traddodiad democrataidd yn Ewrop.”