Jeremy Corbyn (llun: PA)
Wrth i gynhadledd y Blaid Lafur agor yn Brighton mae’r arweinydd Jeremy Corbyn wedi rhybuddio na fydd yn ildio os bydd Aelodau Seneddol ei blaid yn ceisio’i ddisodli.

Mewn cyfweliad yn yr Observer, dywed arweinydd yr Wrthblaid mai mater i holl aelodau ei blaid, ac nid Aelodau Seneddol yn unig, yw pwy sy’n eu harwain.

Yn ôl rheolau Llafur, gallai 20% – sef 46 – o ASau Llafur alw etholiad am arweinydd newydd. Dywed Jeremy Corbyn fodd bynnag y byddai’n ail-ymladd etholiad o’r fath yn hytrach na rhoi’r gorau iddi petai hynny’n digwydd.

Mae hefyd yn bwriadu cyflwyno cynlluniau i roi mwy o rym i aelodau cyffredin y blaid Lafur.

Dywed llefarydd ar ei ran ei fod yn awyddus i wybod barn aelodau ar lawr gwlad a’r cefnogwyr a dalodd £3 i gymryd rhan yn etholiad yr arweinydd.

“Wrth ethol Jeremy, credwn fod y blaid yn dweud wrthon ni fod arnyn nhw eisiau gwleidyddiaeth mwy agored a democrataidd,” meddai.

“Rydym yn lansio adolygiad o’r ffordd yr ydym yn gwneud polisi a sut y gallwn ei wneud yn fwy cynhwysol.”