Mae dynes o Hwngari wedi cael ei lladd, a dynes o Dde Corea wedi’i hanafu’n ddifrifol, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gwch yn ystod taith dwristaidd ar afon yng Ngwlad Thai.

Fe gafodd tua 20 o bobol eraill, yn benna’ o Dde Corea, eu hanafu yn y ddamwain yn Amphawa, cyrchfan boblogaidd gyda thwristiaid tua 35 milltir i’r gorllewin o Bangkok.

Roedd un cwch, yn cario 21 o bobol o Dde Corea a dau o Hwngari, yn dychwelyd ar ddiwedd trip pan gafodd ei daro gan gwch gwag yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Fe gafodd yr ymwelydd o Hwngari ei tharo yn ei phen, Mae gyrwyr y ddau gwch yn wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy esgeulustod.