Hong Kong
Mae treisiwr a ddihangodd cyn sefyll ei brawf, wedi cael ei ddal yn Hong Kong.
Fe gafwyd Joseph Tsang, 31, yn euog yn ei absenoldeb yn Llys y Goron Rhydychen fis diwetha’. Roedd wedi treisio ddwywaith, ac wedi cyflawni ymosodiad rhywiol yn swydd Hampshire.
Roedd hefyd i fod i gael ei ddedfrydu yn dilyn ei gael yn euog ym mis Ionawr eleni o greu delweddau anweddus o bland ac o gael rhyw â phlentyn.
Fe gafodd Joseph Tsang, o Rydychen, ei arestio gan Heddlu Hong Kong ddoe, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Dwyrain y ddinas heddiw.
Fe allai hi gymryd rhwng wyth wythnos a dwy flynedd i’w ddanfon o Hong Kong yn ôl i Loegr.