Mae arweinydd olaf Tsiecoslofacia wedi marw’n 97 oed.

Milous Jakes oedd arweinydd y Blaid Gomiwnyddol adeg chwalu’r wlad wedi’r Gwrthryfel Felfed yn 1989, a hynny ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei benodi’n ysgrifennydd cyffredinol ei blaid.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth gan y blaid.

Ar ôl gwrthwynebu diwygiadau rhyddfrydol yn 1968 fel rhan o Wanwyn Prâg, a gafodd eu chwalu wedyn gan Gytundeb Warsaw, roedd e’n aelod o’r gyfundrefn newydd oedd yn rheoli’r wlad.

Fe ddaeth i amlygrwydd eang cyn y Gwrthryfel ar ôl disgrifio’r Blaid Gomiwnyddol fel “pared”, oedd yn symbol o’r ffaith iddi gael ei hynysu yng nghymdeithas Tsiecoslofacia.

Cafodd manylion yr araith honno eu rhyddhau’n gudd, gan roi slogan i gannoedd o filoedd o brotestwyr wnaeth ymgasglu ym Mhrâg yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

“Dydyn ni ddim eisiau pared” meddai’r protestwyr.