Mae cerflun o brotestiwr Black Lives Matter wedi disodli’r gofeb ddadleuol i Edward Colston yn ninas Bryste.

Cafodd y cerflun o Jen Reid ei greu gan y cerflunydd Marc Quinn ar sail llun o Jen Reid, dynes leol oedd yno i weld y gofeb i’r masnachwr caethweision yn cael ei dymchwel gan brotestwyr.

Cafodd ‘A Surge of Power’ ei godi ar y safle toc cyn 5 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 15) heb yn wybod i Gyngor Dinas Bryste a heb eu caniatâd.

Roedd y Maer Marvin Rees eisoes wedi dweud y byddai’r Cyngor yn penderfynu beth fyddai’n disodli’r gofeb, a hynny ar sail ymgynghoriad democrataidd.

Mae Jen Reid eisoes wedi cael tynnu ei llun o flaen y cerflun newydd.

Dywedodd fod gweld y gofeb wreiddiol yn cael ei dymchwel “fel pe bai trydan yn mynd drwof fi”, a’i bod hi wedi bod yn meddwl “am gaethweision fu farw dan law Colston” a’r bobol roedd hi am eu grymuso, gan gynnwys George Floyd, dyn croenddu fu farw dan law’r heddlu yn yr Unol Daleithiau.

“Mae creu’r cerflun hwn mor bwysig gan ei fod yn helpu i gadw’r daith tuag at gyfiawnder a chydraddoldeb hiliol i symud oherwydd mae bywydau duon o bwys bob dydd,” meddai, gan ychwanegu bod y cerflun yn cynrychioli ei mam, ei merch ac i bobol groenddu eraill.

Cefndir

Ar Fehefin 7, aeth protestwyr ati yn ystod gorymdaith i dynnu’r gofeb i Edward Colston i lawr gan ddefnyddio rhaffau.

Cafodd ei rholio a’i thaflu i’r harbwr ger Pont Pero, sydd wedi’i henwi er cof am Pero Jones, caethwas oedd yn byw ac a fu farw yn y ddinas.

Cafodd y gofeb ei thynnu o’r harbwr gan y Cyngor ar Fehefin 11, wrth iddyn nhw ddweud y byddai’n cael ei harddangos yn amgueddfa’r ddinas, ochr yn ochr â phlac Black Lives Matter.

Dywed y cerflunydd Marc Quinn iddo benderfynu cysylltu â Jen Reid ar ôl gweld ei llun o flaen y gofeb i Edward Colston, ond mae’n mynnu na fydd y cerflun yno’n barhaol.