Mae amheuon fod pobol yng Ngheredigion yn marw yn sgil y coronafeirws yn gynt na phobol mewn rhannau eraill o Gymru.

Mae cwestiynau wedi codi am farwolaethau yn y sir ar ddechrau’r flwyddyn, gyda chryn dipyn ohonyn nhw’n ymwneud â phroblemau anadlu.

Ceredigion sydd a’r ail gyfradd leiaf o farwolaethau coronafeirws o blith yr holl siroedd yng Nghymru a Lloegr.

Ond yn ôl rhaglen Post Cyntaf y BBC, bu farw 342 o bobol yn y sir yn ystod 17 wythnos cyntaf y flwyddyn, ac mae hynny 22% yn uwch na’r cyfartaledd dros y bum blynedd diwethaf.

Dyma’r nifer fwyaf o farwolaethau hefyd ym misoedd Ionawr, Chwefror a Mawrth ers deng mlynedd.

Angen atebion

Wrth ymateb, dywed Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, fod angen ymchwiliad.

“Rwy’n credu ei fod e’n rhywbeth sydd yn werth edrych arno fe,” meddai wrth raglen y Post Cyntaf.

“Mae angen ystyried beth yw’r achos am y cynnydd yma, ydy e’n rhywbeth naturiol neu a oedd unrhyw beth arall tu ôl i’r ffigurau?

“O’n safbwynt i, fydden i’n hoffi bod modd edrych yn fanylach i’r achosion marwolaethau, i wneud yn siŵr bo’ ni ddim wedi colli unrhyw beth, a bo’ ni yn paratoi’n iawn nawr ar gyfer tymor y gaeaf, achos maen nhw yn gwestiynau digon dilys.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwrthod cyhoeddi manylion y marwolaethau, a dydy Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddim wedi ymateb chwaith.