Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid o £9m o’r rhaglen Trawsnewid Trefi ar gyfer adfer canol trefi wedi pandemig y coronaferiws.
Yn ôl Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, bydd £5.3m o’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn cael ei ddefnyddio i ariannu datblygiadau yng nghanol trefi yn ogystal â chefnogi masnachwyr.
Bydd £3.7m o gyllid yn cael ei fuddsoddi i wella canol trefi bach cymoedd y de.
Mae’r gronfa Trawsnewid Trefi, sydd yn werth £90m, yn cynnwys y pecyn cymorth ar gyfer canol trefi gan ychwanegu at y buddsoddiad o £800m yng nghanol trefi gan Lywodraeth Cymru ers 2014.
Mae’r buddsoddiad hwn yn darparu:
- Prosiectau cyfalaf mawr sy’n addasu eiddo gwag a thir at ddibenion gwahanol yng nghanol trefi ledled Cymru.
- Benthyciad ychwanegol o £10m i ddefnyddio adeiladau gwag neu adeiladau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n aml, sydd wedi agor yn ddiweddar ar gyfer ceisiadau.
- £15.2m ac arbenigedd sy’n arwain y diwydiant er mwyn i awdurdodau lleol fynd i’r afael â’r adeiladau gwag sydd wedi eu hesgeuluso ar ein stryd fawr.
- Mae cynlluniau seilwaith gwyrdd gwerth £9m ledled Cymru fydd yn gwneud canol trefi yn wyrddach, yn fwy deniadol a diogel.
- Cefnogaeth i’n Trefi Arfordirol a’n Cymunedau drwy’r Gronfa Cymunedau Arfordirol.
- Cyllid i awdurdodau lleol gyflwyno mentrau lleol arloesol i hybu canol trefi – mae’r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar farchnata a brandio (gan gynnwys ymgyrchoedd siopa’n lleol), uwch gynllunio, defnyddio’r digidol a mynd i’r afael ag adeiladau gwag.
‘Buddsoddi yng nghanol ein trefi mor berthnasol ag erioed’
“Mae buddsoddi yng nghanol ein trefi mor berthnasol ag erioed ond gan nad ydym yn gwybod eto am yr effaith a gaiff y coronafeirws ar ganol ein trefi, mae’n hanfodol bod unrhyw gamau yn y tymor byr yn cael effaith hirdymor ac yn gwella golwg a theimlad canol ein trefi,” meddai Hannah Blythyn.
“Dyna pam rwy’n cyhoeddi y bydd £5.3m ar gael yn ystod gweddill 2020-21 i ariannu addasiadau ar gyfer canol trefi, fydd yn hwyluso masnachu a diogelwch y cyhoedd mewn ymateb i’r Coronafeirws.”
“Mae’r Cyllid gwerth £3.7 miliwn o Dasglu’r Cymoedd yn canolbwyntio ar alluogi cymunedau yn y rhanbarth i weithio’n agosach at adref o fewn canol trefi drwy leoliadau cydweithio a gwelliannau cynaliadwyedd a theithio llesol,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a Chadeirydd Tasglu’r Cymoedd.
“Bydd hyn yn hanfodol wrth gefnogi’r stryd fawr yn ein trefi llai yn ogystal â chreu ein heconomi sylfaenol.”