Mae Plaid Cymru am weld y grym i gynnal refferendwm annibyniaeth yn cael ei ddatganoli i Gymru.

Byddan nhw’n arwain y ddadl gyntaf erioed ar annibyniaeth Cymru yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 15).

Mae’r Blaid am gyfeirio at bôl piniwn oedd yn sôn bod 25% yn cefnogi’r farn ei bod hi’n bryd i’r grym i gynnal refferendwm annibyniaeth gael ei ddatganoli i Gymru.

Yn ôl yr arolwg hwn, dywedodd 25% o bobol Cymru y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth pe bai yna refferendwm ar y mater yfory.

Mae 54% o bobol o blaid annibyniaeth i’r Alban ar hyn o bryd.

‘Cymru wedi profi ei hun’

“Mae Cymru wedi profi ei hun yn ystod argyfwng y coronafeirws trwy weithredu’n annibynnol i amddiffyn ein dinasyddion rhag llanast ac anaeddfedrwydd Llywodraeth San Steffan,” meddai Adam Price.

“Wrth inni ddod allan o’r argyfwng hwn, ni allwn ddychwelyd i’r ‘status quo’. Mae’r status quo wedi methu Cymru.

“Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

“Gall annibyniaeth i Gymru fod yn rym er gwell. Grym i wrthod gwleidyddiaeth ynysig a chyntefig San Steffan ac yn hytrach cofleidio gwleidyddiaeth o obaith, gofal a chymuned yn ein Cymru annibynnol newydd ni – fyddai’n sefyll yn dal ymhlith cenhedloedd eraill y byd.

“Mae’n hen bryd newid a dim ond trwy Lywodraeth Plaid Cymru y gellir ennill y newid hwnnw, a’n hannibyniaeth.”