Mae’r coronafeirws yn dal i ledaenu ar raddfa fawr yn yr Unol Daleithiau, Brazil ac India, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Mae’r Unol Daleithiau wedi adrodd bron i 59,000 o achosion coronafeirws newydd mewn un diwrnod, wrth i’r Arlywydd Donald Trump fynnu y bydd ysgolion yn ailagor yn yr Hydref.
Tra bod 25,000 achos newydd o’r coronafeirws yn India, wrth i’r afiechyd barhau i ledaenu drwy’r wlad o 1.4 biliwn o bobol.
Ac mae gan Brazil 45,000 o achosion newydd.
Mae 60% o’r achosion newydd ledled y byd yn y gwledydd hyn, yn ôl ffigyrau Prifysgol Johns Hopkins.
Mae’r firws wedi bod yn lledaenu’n gyflym yn Ne Affrica hefyd, gyda 9,000 o achosion newydd yn cael eu hadrodd yn ei diweddariad dyddiol diweddaraf.
Yn Awstralia, mae’r awdurdodau wedi adrodd 179 achos newydd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn ninas Melbourne, lle mae’r awdurdodau wedi rhoi cyfyngiadau mewn grym am chwe wythnos.
Mae 220 achos newydd yn Tokyo heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 9), gan ddod a chyfanswm y ddinas i fwy na 7,000 – sy’n oddeutu traean cyfanswm achosion y wlad.
Dros 3 miliwn o achosion
Yn yr Unol Daleithiau, mae nifer yr achosion bellach wedi pasio 3 miliwn, sy’n golygu bod un ymhob 100 person wedi cael eu heintio.
Mae 132,000 o bobol wedi marw yno yn sgil y firws. Yn nhaleithiau Tecsas, Fflorida ac Arizona y mae’r nifer fwyaf o achosion diweddaraf.
Ond mae Donald Trump yn benderfynol o ailagor ysgolion America er gwaethaf gofidion am y feirws.
Ddydd Mercher (Gorffennaf 8), bygythiodd atal arian ffederal os nad oedd ysgolion yn dychwelyd eu disgyblion i’r ysgol yn yr Hydref.
Mae’r Arlywydd wedi cwyno fod canllawiau diogelwch ei swyddogion iechyd cyhoeddus yn anymarferol ac yn rhy ddrud.
Er gwaethaf pwysau gan Donald Trump, mae Efrog Newydd wedi cyhoeddi y bydd y rhan fwyaf o’u disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ddwy neu dair gwaith yr wythnos yn unig, gan ddysgu ar-lein rhwng y dyddiau hynny.
“Ni fydd y rhan fwyaf o ysgolion yn gallu cael eu holl blant yn yr ysgol ar yr un pryd,” meddai Maer Efrog Newydd, Bill de Blasio.