Mae pennaeth Burger King yn y Deyrnas Unedig wedi rhybuddio y gallai 1,600 o swyddi gael eu colli yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dim ond 370 o’r 530 o fwytai’r gadwyn fwyd yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ailagor ers i’r cyfyngiadau fod mewn grym.

Mae Prif Weithredwr y cwmni, Alasdair Murdoch wedi dweud wrth y BBC y gallai effaith economaidd pandemig y coronafeirws orfodi’r cwmni i gau un ymhob 10 o’u bwytai yn barhaol.

“Nid ydym eisiau colli swyddi. Rydym yn trio’n galed i beidio, ond mae’n rhaid i ni dybio y bydd rhwng 5% a 10% o’r bwytai ddim yn gallu aros ar agor,” meddai.

“Dw i’n meddwl fod hyn yn wir am bawb yn ein diwydiant ni”.

Ddydd Mercher (Gorffennaf 8) cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak becyn cefnogaeth gwerth £30 biliwn i roi hwb i adferiad economaidd y wlad.

Mae’r pecyn yn cynnwys cynlluniau i sybsideiddio biliau bwytai drwy gydol mis Awst er mwyn annog pobol i fwyta allan.

Fodd bynnag, mae Alasdair Murdoch wedi dweud nad yw cynlluniau’r Llywodraeth yn gwneud digon i ddigolledu bwytai am gyfuniad o gostau a chwymp mewn gwerthiant drwy gydol y pandemig.

“Dw i ddim yn meddwl bod modd dod dros y broblem hon,” meddai wrth y BBC.