Mae dyn wedi’i gael yn euog o lofruddio Asim Khan yng Nghaerdydd y llynedd.
Fe fu farw Asim Khan, 21 oed, o Grangetown, ar ôl cael ei drywanu yn Stryd y Santes Fair yn y brifddinas tua 4.50yb ar Orffennaf 21 y llynedd.
Roedd Momodoulamin Saine, 28, o Drelái wedi gwadu ei lofruddio ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher (Gorffennaf 8).
Mae brawd Asim Khan, Hamza Khan, 24, o Grangetown, wedi ei gael yn euog o geisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i Momodoulamin Saine.
Fe fydd y ddau ddyn yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach y mis hwn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea: “Mae’r achos trasig yma yn tanlinellu unwaith eto’r canlyniadau pellgyrhaeddol o droseddau yn ymwneud a chyllyll.”
Mae wedi apelio ar bobl i gysylltu â’r heddlu os ydyn nhw’n amau bod rhywun maen nhw’n eu hadnabod a chyllell yn eu meddiant neu’n gysylltiedig â throseddau’n ymwneud a chyllyll.
“Fe allai achub bywyd,” meddai.