Mae ymateb cymysg wedi bod i gyhoeddiad y Canghellor Rishi Sunak am becyn cymorth gwerth £30 biliwn i ddiogelu swyddi.

Tra bod rhai papurau newydd wedi croesawu addewidion gwariant y Canghellor mae eraill wedi dweud nad yw’r mesurau yn mynd yn ddigon pell i osgoi “tswnami” o ddiswyddiadau.

Mae cynlluniau’r Canghellor yn cynnwys gwell hyfforddiant a phrentisiaethau i bobl ifanc, toriadau treth i hybu menter a busnes, rhagor o wariant ar isadeiledd, ac arian tuag at filiau mewn bwytai.

Yn ôl y Daily Express mae’r pecyn yn “gyllideb o obaith” a’r “rysáit cywir” ar gyfer adfer yr economi.

Roedd y cyn-Ganghellor Norman Lamont hefyd wedi defnyddio ei golofn yn y Daily Mail i ddatgan bod y mesurau yn “greadigol” yn yr ystyr eu bod yn “addasu i newidiadau mewn amgylchiadau”.

Pecyn “ddim yn ddigonol”

Ond mae The Guardian wedi rhoi sylw i bryderon gan arbenigwyr economaidd, undebau llafur a’r Blaid Lafur sy’n cwestiynu a yw’r pecyn yn ddigonol i fynd i’r afael a’r argyfwng swyddi a ddaw pan fydd cynllun ffyrlo’r Llywodraeth yn dod i ben ym mis Hydref.

Mae rhai o’r mesurau wedi cael eu croesawu gan y papur newydd ond mae’n dweud bod ’na bryder nad ydyn nhw’n mynd yn ddigon pell.

Yn ôl y Daily Mirror mae’r Canghellor wedi “colli cyfle” ac nid oedd y mesurau yn “cwrdd â maint yr her”.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweindog Cyllid Llywodraeth Cymru: “Er bod datganiad y Canghellor yn cynnwys rhai cyhoeddiadau sydd i’w croesawu, nid yw’n dod yn agos at yr hyn sydd ei angen ar gyfer graddfa’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae angen cymryd camau mwy helaeth a phellgyrhaeddol i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn ac ailgodi’n gryfach.”

 “Dirwasgiad”

Mewn cyfweliad gyda Sky News bore ma (dydd Iau, Gorffennaf 9) dywedodd Rishi Sunak ei fod wedi bod yn “glir o’r cychwyn nad oedden ni yn mynd i allu diogelu pob un swydd ac fe fyddai’n anghywir i fi ddweud fel arall.”

“Mae cyfnodau anodd iawn o’n blaenau… mae pobl yn darogan lefelau sylweddol o ddiswyddiadau. Mae hynny’n pwyso’n drwm arna’i.”

Ychwanegodd ei fod yn “bryderus” am gyflwr yr economi a bod y Deyrnas Unedig ar drothwy “dirwasgiad sylweddol”.

Ond wrth i ni “ddod allan yr ochr arall i’r argyfwng dw i eisiau sicrhau bod yr adferiad mor gry’ â phosib, a dyna pam ry’n ni eisiau cael pobl yn ôl mewn bwytai, yn symud tŷ, yn adfer tai, ac yn rhoi mesurau effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi.”