Fe fydd Ffermio Cynaliadwy yn parhau i fod yn rhan ganolog o ddyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru, meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir gafodd ei gynnal llynedd.
Roedd yr ymgynghoriad hwn yn dweud y dylai ffermwyr sy’n ffermio’n gynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd gael eu cefnogi a’u gwobrwyo.
Mae Lesley Griffiths wedi cadarnhau heddiw (ddydd Iau, Gorffennaf 9), y bydd cynllun cymorth amaethyddol yn cael ei lunio ar sail fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn y dyfodol.
Y camau nesaf
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cymryd camau i ddatblygu cymorth at y dyfodol.
Bydd yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o gynllun cymorth incwm, sy’n seiliedig ar hawl i gynllun gwirfoddol, sy’n gwobrwyo’r gallu i gynhyrchu canlyniadau.
Bydd cyfnod pontio yn cael ei gyflwyno er mwyn rhoi cyfle i ffermwyr addasu eu hanghenion busnes presennol i allu cyflawni unrhyw newidiadau mae’r cynllun yn galw amdano.
Ac yna, bydd y Llywdoraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn cyn diwedd y tymor hwn, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
“Rwy’n falch i gadarnhau heddiw, yn dilyn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, y byddwn yn parhau i ddatblygu system cymorth amaethyddol ar gyfer y dyfodol sy’n seiliedig ar Reoli Tir yn Gynaliadwy,” meddai Lesley Griffiths.
“Wrth wneud hynny, gallwn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, sicrhau safonau uchel ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid a diogelu ein hadnoddau naturiol.
“Bydd bwyd a gynhyrchir drwy’r system hon yn gynaliadwy a bydd hynny’n sicrhau cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.