Mae’r arlywydd Donald Trump wedi addo amddiffyn gwerthoedd America rhag ei gelynion oddi mewn iddi yn ei araith i ddathlu diwrnod annibyniaeth y wlad.

“Rydym bellach yn y broses o orchfygu’r chwith radical, yr anarchwyr, yr aflonyddwyr, y lladron, a’r bobl sydd, mewn sawl achos, heb ddim syniad beth maen nhw’n ei wneud,” meddai yn Washington neithiwr.

“Wnawn ni bydd adael i haid afreolus dig rwygo’n delwau, dileu ein hanes, gwthio syniadau ar ein plant.

“Ac fe fyddwn ni’n amddiffyn, diogelu a chadw’r ffordd Americanaidd o fyw, a gychwynnodd yn 1492 pan ddarganfu Columbus America.”

Er gwaetha’r holl rybuddion am y cynnydd mewn achosion coronafeirws yn y wlad, roedd Donald Trump wedi trefnu noson o sioe filwrol a thân gwyllt i ddathlu diwrnod annibyniaeth yn Washington.

Eto i gyd, roedd y torfeydd yn y National Mall yn sylweddol deneuach nag oedden nhw yn y dathliadau flwyddyn yn ôl.

Mewn llawer rhan arall o’r wlad, roedd yr awdurdodau wedi penderfynu peidio â chynnal dathliadau swyddogol ar ôl dyddiau o dwf dychrynllyd mewn achosion Covid-19.