Mae cyfraniad amhrisiadwy holl weithwyr iechyd Prydain yn cael ei gydnabod a’i ddathlu’r penwythnos yma i nodi 72 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar 5 Gorffennaf 1948.
Cychwynnodd y gweithgareddau gyda munud o dawelwch am 9 o’r gloch neithiwr i gofio’r rheini sydd wedi marw yn ystod y pandemig coronafeirws.
Wrth i’r cyhoedd ymuno yn y tawelwch a goleuo cannwyll cafodd adeiladau cyhoeddus amlwg gan gynnwys 10 Downing Street, y Royal Albert Hall a Thŵr Blackpool eu goleuo mewn glas mewn teyrnged i’r NHS.
Ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y digwyddiad roedd y prif weinidog Boris Johnson yn Downing Street ac Archesgob Caergaint, Justin Welby, a gynheuodd gannwyll goffa yng nghadeirlan Caergaint.
Uchafbwynt y dathliadau heddiw fydd curo dwylo am 5 o’r gloch i ddiolch i bawb o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd am eu gwaith diflino drwy’r pandemig. Gobaith y trefnwyr yw y bydd y digwyddiad yn gychwyn ar draddodiad blynyddol.