Mae cynlluniau ar droed i gynyddu niferoedd staff canolfannau gwaith mewn ymateb i’r argyfwng economaidd yn sgil y coronafeirws.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak ar fin cyhoeddi y bydd y nifer o hyfforddwyr gwaith yn dyblu o 13,500 i 27,000 er mwyn ceisio helpu’r holl bobl sydd wedi colli eu swyddi.

Dywed y Trysorlys fod yr hyfforddwyr gwaith yn gweithredu fel “mentoriaid arbenigol” a’u bod wedi profi eu llwyddiant wrth helpu pobl ddi-waith yn ôl i swyddi ynghynt.

Yn y cyfamser, dywed adroddiad ym mhapur newydd yr Observer fod y Trysorlys hefyd yn “ystyried” cynlluniau gan y grŵp ymchwil Resolution Foundation i roi £500 i oedolion a £250 i blant mewn talebau i’w gwario yn y sectorau o’r economi sydd wedi cael eu taro galetaf gan y coronafeirws.

Mae disgwyl i’r Canghellor amlinellu rhagor o bolisïau ar gyfer adfer economi Prydain ddydd Mercher.