Mae protestwyr yn Baltimore, Maryland, wedi dymchwel cofgolofn o Christopher Columbus a’i daflu i harbwr y ddinas.

Mae’r anturiaethwr o’r Eidal a laniodd yn America yn 1492 yn cael ei ystyried fel un sy’n gyfrifol am hil-laddiad brodorion yn yr Americas ac am gamfanteisio arnyn nhw.

Yn dilyn marwolaeth George Floyd wrth gael ei arestio gan yr heddlu ym mis Mai, mae galwadau cyson wedi bod am ddymchwel cofcolofnau o Columbus a ffigurau cydffederasiwn taleithiau’r de yn y Rhyfel Cartref.

Mae hyn wedi arwain at gofgolofnau o Columbus yn cael eu dymchwel neu fandaleiddio yn Miami; Richmond, Virginia; St Paul, Minnesota; a Boston.

Dywedodd llefarydd ar ran Maer Baltimore, Bernard C. “Jack” Young, eu bod yn “deall y ddeinameg sydd ar waith yn Baltimore fel rhan o naratif cenedlaethol”.

Roedd y gofgolofn wedi cael ei dadorchuddio yn 1984 gan yr arlywydd ar y pryd, Ronald Reagan.