Mae Llywodraeth yr Alban wedi mynegi pryderon ynghylch cynlluniau i greu “marchnad fewnol” ar gyfer y Deyrnas Unedig yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Byddai cynllun o’r fath yn tanseilio hawliau’r cenhedloedd datganoledig, yn ôl Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban, Michael Russell.

Mewn llythyr at weinidog Swyddfa’r Cabinet yn Llundain, Michael Gove, dywed Michael Russell fod cynigion Llywodraeth Prydain yn golygu cipio grym oddi ar yr Alban.

“Maen nhw’n cynllwynio, mewn ffordd dwyllodrus, i gyflwyno cyfraith newydd a fyddai i bob pwrpas yn trosglwyddo grym i weinidogion Torïaidd mewn meysydd polisi datganoledig, gan bortreadu hyn fel amddiffyn marchnad fewol y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit,” meddai.

“O dan eu cynlluniau nhw, os yw San Steffan yn mabwysiadu safonau is mewn meysydd datganoledig, gallai’r Alban gael ei gorfodi i’w derbyn, waeth beth fo barn ein Senedd.

“Mae’r cynllun hwn yn gyfystyr â defnyddio Brexit i guddio’r ymgais fwyaf i gipio grym oddi ar Lywodraeth yr Alban, ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth a allwn i rwystro hyn rhag digwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Michael Gove y bydd Llywodraeth Prydain yn ymateb yn ofalus i lythyr Michael Russell ac yn parhau i weithio’n agos gyda’r tair llywodraeth ddatganoledig.

“Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn roi buddiannau pobl a busnesau yn yr Alban, a ledled y Deyrnas Unedig, yn gyntaf,” ychwanegodd.