Cafodd dyn yn ei 20au ei saethu’n farw gerllaw carchar Pentonville yn Islington, Llundain, ganol pnawn ddoe.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw tua 3.20, ond roedd eisoes wedi marw.
Dywedodd tyst iddo weld y digwyddiad ‘dychrynllyd’ o’i ffenest.
“Fe glywais tua saith ergyd, rhedais i’r ffenest, a gweld dyn ar feic neu foped yn mynd oddiyno,” meddai.
“Roedd yn edrych yn ôl, a gallwn weld dyn yn syrthio, wedyn daeth yr heddlu.”
Dywed Heddlu Llundain nad oes neb wedi cael ei arestio hyd yma, a’i bod yn rhy fuan dweud a oedd cysylltiad rhwng y digwyddiad a charchar Pentonville, un o garchardai hynaf a phrysuraf Lloegr.