Mae ceidwad sŵ yn Zurich yn y Swistir wedi cael ei lladd gan deigr Siberiaidd yno.
Er i aelodau eraill o staff ruthro i helpu’r ddynes 55 oed yn ffau’r teigrod, a denu’r teigr oddi wrthi, fe fu farw yn y fan a’r lle.
Dywed y sw eu bod yn ymchwilio i’r ‘digwyddiad trychinebus’, gan gynnwys darganfod pam fod y ceidwad yn yn y ffau yr un amser â’r teigr.