Mae Gaeleg yr Alban yn wynebu argyfwng difrifol a’i pharhad fel iaith frodorol yn y fantol, yn ôl ymchwil newydd a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos yma.
Mae’n dangos mai dim ond tua 11,000 o bobl ar ynysoedd gorllewinol yr Alban sy’n siarad Gaeleg fel eu prif iaith bellach, a mwyafrif o’r rhain dros 50 oed.
Mae’r ymchwil gan Brifysgol Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban yn cael ei ddisgrifio fel yr arolwg cymdeithasol mwyaf cynhwysfawr erioed o gymunedau Gaeleg.
Wrth rybuddio am ddifrifoldeb yr argyfwng, mae’r awduron yn pwyso am ddull cwbl wahanol o adfywio’r Gaeleg yn yr ynysoedd, gyda’r pwyslais ar ymddiriedolaeth ddatblygu gymunedol sydd o dan reolaeth uniongyrchol y gymuned Gaeleg.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n glir am raddfa anferthol yr heriau sy’n ymwneud â gwrthdroi’r dirywiad parhaus yn y defnydd o’r Gaeleg yn yr ardaloedd hyn,” meddai’r Athro Conchúr Ó Giollagáin, Athro Ymchwil Gaeleg y Brifysgol.
“Heb adfywiad cymuned gyfan yn y Gaeleg, fe fydd y tueddiad tuag at ei cholli fel iaith frodorol yn parhau.
“Rhaid mynd i’r afael â’r diffyg cyfatebiaeth rhwng polisïau presennol ar y Gaeleg a graddfa’r argyfwng ymysg y grŵp siaradwyr er mwyn gweithredu ar frys rhag colli’r iaith yn yr ynysoedd.
“Dylai polisi ar Gaeleg ganolbwyntio’n bennaf bellach ar gynlluniau perthnasol i osgoi colli’r Gaeleg fel iaith gynhenid.”
Er bod awduron yr ymchwil yn cydnabod rhai elfennau o bolisi cenedlaethol, fel y niferoedd o blant ysgolion cynradd sydd mewn addysg cyfrwng Gaeleg, maen nhw’n pwyso am addasu polisi cenedlaethol i fynd i’r afael â’r dirywiad yn y defnydd o’r Gaeleg fel iaith gymunedol.
Ychwanegodd Iain Caimbeul, Cymrawd Ymchwil yn Sefydliad Gwyddorau Iaith Prifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd:
“Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hwn yn werthfawr i’r rheini sydd â diddordeb mewn symud tybiaethau polisi cyhoeddus oddi wrth ddibyniaeth lwyr ar y system addysg ar gyfer creu’r genhedlaeth newydd o siaradwyr Gaeleg rhugl.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n newid y sail ar gyfer dyrannu adnoddau er mwyn amddiffyn yn erbyn dirywiad pellach.”