Mae pump yn rhagor o farwolaethau pobl a oedd wedi profi’n bositif i Covid-19 wedi cael eu cofnodi yn y cyfnod 24-awr diwethaf.
Mae hyn yn codi cyfanswm y marwolaethau i 1,530.
Fe fu cynnydd o 34 yn y nifer o brofion positif am yr haint yn yr un cyfnod, gan ddod â chyfanswm yr achosion i 15,875.
Mae 39 yn rhagor o bobl a oedd wedi profi’n bositif i’r coronafeirws wedi marw mewn ysbyty yn Lloegr, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau mewn ysbytai yn Lloegr i 28,871.
Does dim un farwolaeth wedi ei chofnodi yn yr Alban dros y 24 awr diwethaf.