Bydd rhagor o wasanaethau trên yn rhedeg o yfory ymlaen yn sgil rhagolygon o dwf yn y galw am drafnidiaeth gyhoeddus wrth i gyfyngiadau’r cyfnod cloi gael eu llacio.
Dywed y Rail Delivery Group (RDG), sy’n ffederasiwn o holl gwmnïau trenau Prydain, y bydd y gwasanaethau’n cynyddu o’r lefelau presennol o tua 70% o’r hyn oedden nhw cyn y cyfnod cloi i 85%.
Mae’r cynnydd hwn yn cynnwys rhagor o wasanaethau rhwng Caergybi a Crewe yn y gogledd.
Mae cwmnïau trenau wedi cyflwyno cyfres o fesurau i helpu mynd i’r afael â’r coronafeirws, gan gynnwys arwyddion i deithwyr gadw dwy fetr oddi wrth ei gilydd lle bo’n bosibl, glanhau’r cerbydau yn fwy trylwyr, a pheiriannau gwerthu masgiau wyneb mewn gorsafoedd.
Er hyn mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio hanfodol yn unig. Dywed y Prif Weithredwr James Price fod hyn er mwyn sicrhau bod digon o le i weithwyr allweddol a’r rheini heb ddewisiadau teithio eraill allu teithio’n ddiogel.