Bu farw Sheikh Rashid bin Mohammed bin Rashid Al Maktoum, un o feibion arweinydd Dubai, yn ddim ond 33 oed.

Yn ol gwasaneth newyddion yr Emiradau Arabaidd Unedig, WAM, fe gafodd drawiad ar ei galon. Ei frawd iau ydi’r tywysog coronog a fydd yn cymryd yr awenau gan eu tad, Sheikh Mohammed bin Rashid Al Maktoum.

Sheikh Rashid oedd mab cynta’ Sheikh Mohammed bin Rashid Al Maktoum a’i brif wraig, Sheikha Hind bint Maktoum bin Juma Al Maktoum. Ar wahân i fod yn arweinydd Dubai, Sheikh Mohammed ydi dirprwy arlywydd a phrif weinidog yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Roedd y mab, Sheikh Rashid, yn frwd ynghylch pob math o chwaraeon, yn enwedig rasio ceffylau. Ei frawd iau, Sheikh Hamdan, ydi tywysog coronog Dubai.

Mae tridiau o alar cenedlaethol wedi dechrau.