Mae beiciwr modur a gafodd ei daflu tua 25m i ffwrdd oddi wrth ei feic wedi gwrthdrawiad gyda char, wedi diodde’ “anafiadau difrifol ofnadwy”.

Fe gafodd ei gyd-deithwraig ar y motobeic hefyd ei thaflu i’r awyr wedi’r ddamwain ffordd yn Pathlow ger Stratford-upon-Avon yn Sir Warwick neithiwr.

Mae llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans y West Midlands wedi cadarnhau fod y gyd-deithwraig, sy’n ei 20au, yn ymwybodol pan gyrhaeddodd parafeddygon safle’r ddamwain tua 8.25yh nos Wener.

Ond fe gafodd y motobeiciwr, sydd hefyd yn ei 20au, ei drin am anafiadau i’w ben, ei frest, ei abdomen, ei belfis a’i wddw, cyn cael ei gludo i Ysbyty Frenhinol Prifysgol Coventry a Sir Warwick.