Mae miloedd o ffoaduriaid wedi dechrau cyrraedd Croatia, gan agor llwybr newydd tuag at orllewin Ewrop ar ôl i Hwngari ddefnyddio nwy dagrau a chanonau dwr i’w cadw nhw allan o’u tiriogaeth.

Dywedodd heddlu Croatia bod o leiaf 5,650 o ffoaduriaid wedi dod i’r wlad ers i’w grwpiau cyntaf ddechrau cyrraedd yn gynnar ddydd Mercher.

Mae’r awdurdodau wedi bod yn defnyddio bysys a threnau i’w cludo i ganolfannau ar gyfer ffoaduriaid yn y brifddinas Zagreb ac ardaloedd eraill.

Mae’r llywodraeth yn ffurfio corff arbennig i ddelio gyda’r holl bobl. Dywedodd gweinidog y llywodraeth Ranko Ostojic bod y sefyllfa o dan reolaeth ond fe rybuddiodd y byddai’n rhaid ystyried camau eraill “os oes ton enfawr yn dechrau cyrraedd drwy Serbia.”

Mae Croatia yn golygu taith hirach i Ewrop i’r ffoaduriaid o Syria a gwledydd eraill sydd wedi ffoi yn ystod y misoedd diwethaf. Ond does dim llawer o ddewis ganddyn nhw ar ôl i Hwngari gau’r ffin gyda Serbia ddydd Mawrth ac arestio unrhyw un a oedd yn ceisio dod i’r wlad yn anghyfreithlon.

Gwrthdaro

Fe fu gwrthdaro rhwng y ffoaduriaid a heddlu terfysg Hwngari bnawn ddoe ar ôl iddyn nhw wthio rhwystrau sydd wedi cael eu codi ar y ffin a Serbia, am eu bod yn rhwystredig am gael eu hatal rhag mynd i’r wlad.

Fe ymatebodd yr heddlu drwy ddefnyddio nwy dagrau a chanonau dwr, wrth i’r ffoaduriaid daflu cerrig a gwrthrychau eraill at yr heddlu. Cafodd dwsinau o bobl eu hanafu.

Mae cannoedd o ffoaduriaid yn parhau wrth y ffin ond mae’r nifer wedi dechrau lleihau wrth i rai ffoaduriaid ddechrau symud tuag at y ffin a Croatia.

Yn y cyfamser ym Mharis mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi symud 500 o ffoaduriaid o fu’n gwersylla mewn pebyll i gartrefi arbennig ar eu cyfer wrth i’r wlad geisio gwella’i hymdrechion  i ddelio gyda’r miloedd o ffoaduriaid sy’n cyrraedd Ewrop.