Awyren ddi-beilot
Mae ymosodiadau o’r awyr gan y DU wedi lladd tua 330 o ymladdwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn.

Dywedodd Michael Fallon mai amcangyfrif yn unig yw’r ffigwr am y cyfnod o fis Medi’r llynedd hyd at ddiwedd mis Awst.

Cafodd y jihadydd o Gaerdydd, Reyaad Khan ynghyd a Ruhul Amin eu lladd mewn ymosodiad gan awyren ddi-beilot yn un o safleoedd IS yn Raqqah yn Syria ar 21 Awst.