Ffoaduriaid yn croesi’r ffin o Serbia i Roszke, Hwngari fore heddiw (AP Photo/Darko Bandic)
Mae erlynwyr yn Hwngari wedi gwneud cais i gadw pedwar dyn yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi marwolaethau 71 o ffoaduriaid.

Cafwyd hyd i gyrff y ffoaduriaid mewn lori ar y draffordd rhwng Budapest a Fienna ddydd Iau.

Cafodd y pedwar dyn – tri o Bwlgaria ac un o Afghanistan – eu harestio’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac maen nhw’n wynebu achos llys caeedig yn Kecskemet yng nghanolbarth Hwngari.

Nid yw’n glir am ba hyd y bu’r cyrff yn y lori, a oedd, yn ôl yr erlynwyr, wedi cychwyn o Kecskemet.

Yn ôl adroddiadau, mae un o’r dynion yn berchen ar y lori, a dau arall wedi bod yn ei gyrru yn eu tro.

Mae miloedd lawer o ffoaduriaid o wledydd fel Syria wedi cyrraedd Hwngari eleni wrth ffoi i geisio bywyd gwell yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn sgil y peryglon o groesi mewn cychod gwantan a gorlawn ar y môr, mae niferoedd cynyddol wedi troi at deithio ar draws y tir.