Cafodd 275,000 o daliadau, gan gynnwys cyflogau gweithwyr, eu dal yn ôl gan nam cyfrifiadurol yn HSBC ddoe.
Dywed y banc fod y broblem wedi cael ei datrys erbyn hyn a’r taliadau wedi cael eu gwneud.
Wrth ymddiheuro am yr anghyfleustra, dywedodd llefarydd ar ran HSBC y dylai unrhyw gwsmeriaid sy’n dal i gael problemau gysylltu â’r banc.
Roedd y nam yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth i’r system daliadau Bacs – dull o dalu uniongyrchol sy’n rhan allweddol o fanciau Prydain ac sy’n ymdrin â gwerth £50 biliwn bob dydd.