Rebekah Brooks (llun: PA)
Mae ymgyrchwyr dros dynhau rheolaeth ar y wasg wedi cael eu cythruddo gan adroddiad fod Rebekah Brooks am ddychwelyd i’w swydd fel prif weithredwr News Corp ym Mhrydain.
Daw’r newydd flwyddyn ar ôl iddi orfod ateb cyhuddiadau’n ymwneud â hacio ffonau mewn achos llys a barhaodd am 138 o ddyddiau yn yr Old Bailey. Fe’i cafwyd yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau.
Dywedodd Evan Harris o’r mudiad Hacked Off ei fod wedi ei syfrdanu gan y newyddion y bydd yn dod yn ôl i’w swydd.
“Allai hyn ond digwydd mewn cwmni lle nad yw rheolau arferol llywodraethu corfforaethol yn gweithredu,” meddai.
“Amddiffyniad llwyddiannus Mrs Brooks yn yr achos llys oedd ei bod yn swyddog mor ddi-glem fel nad oedd yn gwybod am y troseddu ar raddfa anferthol oedd yn digwydd o ran hacio negeseuon ffôn a llwgrwobrwyo swyddogion cyhoeddus, a’r cynllwyn anferthol i’w guddio, er gwaethaf cyfaddef dinistrio miliynau o negeseuon e-bost a rhoi enw da’r cwmni o flaen cydweithredu â’r heddlu.
“Mae ei methiant wedi costio £300 miliwn i’r cwmni, ac wedyn mae’r taliad o £16 miliwn a gafodd tra bod llawer o ffynonellau ei phapurau newydd wedi mynd i’r carchar.”