Teml Erawan yn Bangkok wedi'r ffrwydrad ar 17 Awst
Mae’r heddlu yng ngwlad Thai wedi arestio tramorwr fel rhan o’u hymchwiliad i’r ffrwydrad mewn teml yn Bangkok.

Cafodd 20 o bobl eu lladd yn y ffrwydrad yn nheml Erawan ar 17 Awst.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu iddyn nhw gael hyd i ddeunyddiau gwneud bomiau yn fflat y tramorwr sydd wedi cael ei arestio. Gwrthododd gadarnhau adroddiadau rhai asiantaethau newyddion mai dyn o Dwrci ydyw.