Blodau ger safle trychineb sioe awyr Shoreham (llun: PA)
Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal yn Shoreham a’r cyffiniau am 1.20 y prynhawn yma – wythnos union ar ôl trychineb y sioe awyrennau yno.

Cafodd o leiaf 11 o bobl eu lladd pan wnaeth hen awyren jet Hawker Hunter blymio i ffordd brysur yr A27 yng ngorllewin Sussex yn ne Lloegr.

Fe fydd trigolion lleol yn ymgynnull ar bont bren gerllaw safle’r trychineb, lle mae cannoedd o dorchau o flodau wedi cael eu gadael dros yr wythnos ddiwethaf.

Parhau mae’r ymchwiliadau i achos y trychineb ac i adnabod gweddillion y rheini a gafodd eu lladd. Mae ffordd yr A27 yn dal i fod ar gau, ond mae disgwyl iddi ailagor ddydd Llun.