Trên Eurostar sy'n cludo teithwyr rhwng Llundain a Paris a Brwsel
Ar ôl ymosodiad arfog gan ddyn arfog ar drên yn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf, mae gweinidogion naw o wledydd Ewrop mewn uwch-gynhadledd yn Paris heddiw i drafod diogelwch ar drenau.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ymhlith y gweinidogion sydd wedi ymgynnull i ymateb ar y cyd i’r bygythiad o gyflafan ar rwydweithiau rheilffyrdd Ewrop.

Mae’r defnydd o sganers mewn gorsafoedd ymhlith y mesurau a fydd yn cael eu trafod.

Cafodd pedwar o deithwyr eu hanrhydeddu am eu dewrder gan lywodraeth Ffrainc yr wythnos yma am rwystro dyn arfog o Moroco, Ayoub El-Khazzini rhag llofruddio cannoedd o deithwyr ar drên o Amsterdam i Paris.

Mae’r digwyddiad, a’r ffordd y llwyddodd El-Khazzini i gludo’i holl arfau ar y trên, wedi arwain at bryderon am ddiogelwch ar drenau.

Oherwydd y niferoedd mawr sy’n teithio ar drenau – mae dros 20 gwaith mwy o bobl yn teithio trwy orsafoedd Ffrainc na thrwy ei meysydd awyr – dywed arbenigwyr y byddai’n anodd iawn gwirio bagiau pob teithiwr.

Mae disgwyl mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd fydd mwy gydweithredu rhwng gwledydd ynghylch symudiadau pobl amheus, a mwy o staff diogelwch mewn gorsafoedd.