Mae o leiaf wyth o blismyn wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau gan wrthryfelwyr Taliban yn nwyrain Afghanistan.

Cafodd o leiaf 15 arall eu hanafu yn yr ymosodiadau ar orsafoedd heddlu yn ardaloedd Andar a Qarabagh o dalaith Ghazni.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.

Cafodd 16 o wrthryfelwyr y Taliban hefyd eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr gan luoedd Afghanistan, wrth i’r ymladd barhau rhwng gwahanol garfannau yn y wlad.