Mae pryder bod tua 200 o ymfudwyr wedi boddi oddi ar arfordir Libya ar ôl i’r cwch roedden nhw arni suddo yn agos i ddinas arfordirol Zuwara.
Mae gweithwyr wedi tynnu’r cwch, oedd wedi suddo, yn ôl i’r harbwr ble roedd sawl corff marw yn arnofio yn y dŵr eisoes.
Dywedodd y Cenhedloedd Unedig eu bod yn credu y gallai hyd at 200 o bobl fod wedi marw, a hynny ar ôl i wylwyr y glannau yn Libya geisio achub tua 500 o ymfudwyr ar ddau gwch.
Yn gynharach yr wythnos hon bu farw 51 o ymfudwyr ar ôl cael eu mygu mewn gwaelod cwch oedd yn teithio o Libya ar draws Môr y Canoldir.
Yn ôl adroddiadau roedd y smyglwyr ar y cwch wedi curo’r ffoaduriaid â ffyn er mwyn eu cadw islaw’r dec, a dim ond yn caniatáu iddyn nhw ddod i fyny am awyr iach os oedden nhw’n talu rhagor o arian.
Mae dwsinau o gychod yn hwylio o arfordir Libya bob wythnos wrth i ffoaduriaid geisio dianc i Ewrop er mwyn osgoi’r gwrthdaro sydd yn parhau yn y wlad.