Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o achosi creulondeb i blant dros gyfnod o 7 mlynedd mewn uned arbenigol i blant yn Y Felinheli yng Ngwynedd.
Roedd Garry Roberts, 43, a Sion Evans, 41, yn gweithio i Ganolfan Brynffynnon tan fis Mawrth y llynedd. Fe gawson nhw eu gwahardd o’u gwaith yn dilyn honiadau a ddaeth i’r wyneb ym mis Chwefror.
O ganlyniad fe gynhaliwyd ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygwr, Andrew Williams ar ran Uned Warchod Heddlu Gogledd Cymru, “Fel canlyniad i’r ymchwiliad, cafodd dau berson eu arestio am droseddau o greulondeb yn erbyn plant yn unol â Deddf Plant a Phobl ifanc 1933.
“Mae un o ohonynt yn wynebu 26 o gyhuddiadau ar wahan yn gysylltiedig gyda 26 o fyfyrwyr yn yr ysgol tra bod y llall yn wynebu troseddau yn gysylltiedig gyda 24 o fyfyrwyr. Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Medi 2006 and Mawrth 2014.”
Mae’r ddau ddyn ar gyfnod o fechnȉaeth, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar Hydref 2.