George North
Mae Warren Gatland wedi cyfaddef y gallai gyrfa George North ddod i ben os yw’n cael “un neu ddwy glec ddifrifol” arall i’w ben.
Dyw’r cawr o asgellwr ddim wedi chwarae ers mis Mawrth ar ôl dioddef o sawl cyfergyd y tymor diwethaf, ond fe fydd e yn nhîm Cymru i wynebu Iwerddon fory yn eu gêm baratoadol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Bydd North, sydd dim ond yn 23 oed, yn ennill ei 50fed cap dydd Sadwrn ond mae Gatland wedi dweud y bydd angen bod yn ofalus â’r chwaraewr rhag peryglu ei iechyd hir dymor.
“Rydych chi’n poeni am eich holl chwaraewyr,” meddai prif hyfforddwr Cymru.
Bod yn ofalus
Dyw Cymru na’i glwb Northampton wedi rhuthro George North yn ôl i’r cae rygbi ar ôl ei anafiadau, ac mae Gatland yn ffyddiog mai dyna oedd y penderfyniad cywir i’w wneud.
“Yr oll allai ddweud yw ei fod e wedi dilyn yr holl brotocolau meddygol ac wedi gwneud popeth, roedden ni’n geidwadol iawn yn y ffordd aethon ni o’i chwmpas. Fe wnaethon ni’n siŵr mai ei ddiogelwch e oedd y prif beth,” meddai Gatland.
“Fe wnes i fynegi pryderon yn ddiweddar fod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod popeth yn iawn, achos os yw e’n cael clec neu ddwy ddifrifol arall fel allai hynny ddod a’i yrfa i ben.
“Yr unigolyn sydd fwyaf pwysig. Fe fyddwn ni’n sicrhau mai ei iechyd e sydd yn dod gyntaf pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau.”
Mwy i ddod
Bydd George North yn rhan o dîm Cymru gref y mae Gatland wedi’i enwi ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon, yr ornest olaf cyn iddo ddewis ei garfan o 31 dydd Llun ar gyfer Cwpan y Byd.
Ac mae prif hyfforddwr Cymru yn meddwl bod hyd yn oed mwy i ddod gan yr hogyn o Fôn maen nhw’n ei alw’n ‘Gogzilla’.
“Pan ddaeth e i sylw pawb roedd e’n wych, ond mae’n rhaid i ni gadw rhoi pwysau arno fe,” meddai Gatland.
“Mae mwy i ddod ganddo fe. Mae ganddo fe’r gallu i fod yn llawer gwell na mae e ar hyn o bryd.
“Mae’n siŵr nad yw e wedi chwarae cystal ag y bydden ni wedi hoffi dros y 12 mis diwethaf. Mae e’n gwybod hynny, ond rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed ar ei gêm.”
Ac fe gyfaddefodd Gatland ei fod dal yn ystyried ble allai safle gorau North fod yn y dyfodol.
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi gweld y potensial llawn sydd ganddo fel chwaraewr,” meddai hyfforddwr Cymru.
“A dydyn ni heb ddiystyru yn y dyfodol y gallai fod yn ganolwr gwych hefyd.”