Osian Roberts
Mae Osian Roberts wedi dweud wrth Golwg360 mai “sylfaen amddiffynnol” Cymru yw un o’r prif resymau pam fod y tîm ar drothwy cyrraedd eu twrnament rhyngwladol cyntaf mewn 58 mlynedd.
Mynnodd is-reolwr Cymru fodd bynnag nad oedd y tîm yn gallu ymlacio ac edrych yn ôl ar hyn o bryd ar eu canlyniad diwethaf yn erbyn Gwlad Belg, pan enillon nhw 1-0 i symud i frig y grŵp.
Y ddwy gêm nesaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 Cymru, yn erbyn Cyprus ac Israel, fydd rhai cyntaf Osian Roberts fel is-reolwr i Chris Coleman yn dilyn ymadawiad Kit Symons.
Os ydi Cymru’n ennill y ddwy gêm honno fe fyddan nhw’n sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, doed a ddelo.
Parhau i wella
Mae Cymru bellach yn ffefrynnau clir i gyrraedd yr Ewros ar ôl trechu’r Belgiaid ym mis Mehefin, ac fe allech chi faddau rhai cefnogwyr am fod yn ddigon hyderus wrth wynebu’r ddwy gêm nesaf yn erbyn Cyprus ag Israel.
Ond gyda’u his-reolwr yn cadw llygad barcud ar y chwaraewyr wythnos nesaf, fe fyddan nhw’n gwybod i beidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol eto.
“I ni, cario ‘mlaen i ganolbwyntio ar ein perfformiadau ni a gwella pob agwedd o’n chwarae ydi’r targed,” meddai Osian Roberts.
“Allwn ni ddim bodloni ar beth wnaethon ni yn erbyn Gwlad Belg. Bob tro ‘da ni’n dod at ein gilydd mae’n rhaid i ni bob tro fod yn gofyn mwy ac yn gwella pob agwedd o’n chwarae.”
Amddiffyn solet
Er mai Gareth Bale a’i goliau sydd yn tueddu i gipio’r penawdau, un o’r elfennau hynny yn chwarae Cymru sydd wedi denu tipyn o ganmoliaeth dros yr ymgyrch hyd yn hyn yw’r amddiffyn.
“Un o’r pethau rydan ni wedi bod yn hynod o falch ohono yn ystod y gystadleuaeth yma ydi pa mor dda rydan ni wedi adeiladu ar y sylfaen yna sydd gennym ni yn amddiffynnol,” meddai Osian Roberts â balchder.
“Da ni ddim wedi ildio gôl hyd yn hyn o bêl-droed agored.
“Felly mae’r record amddiffynnol yna’n rhywbeth ‘da ni’n hynod o falch ohono fo. Mae hynny’n dechrau hefo’r blaenwyr, ac fel tîm ‘da ni ‘di bod yn anodd iawn i dorri, felly mae hynny’n mynd i fod yn bwysig yn y gêm yna allan yng Nghyprus.”
Ffocws ar Gyprus
Er bod dros ddeufis wedi mynd heibio ers y fuddugoliaeth honno yn erbyn Gwlad Belg, mae Osian Roberts yn dweud ei bod hi’n bwysig adlewyrchu ar berfformiad Cymru yn y gêm honno.
Pwysleisiodd hefyd y bydd y tîm yn canolbwyntio ar yr ornest yn erbyn Cyprus yn Nicosia nos Iau 3 Medi yn gyntaf, cyn troi eu sylw at yr ail gêm yng Nghaerdydd yn erbyn Israel ar 6 Medi.
“Mae adlewyrchu yn rhan bwysig o’r broses ar ôl pob gem – boed hynny ar ôl y gêm gyntaf o ddwy mewn cyfnod byr, neu mewn cyfnod hir fel hyn [rhwng gemau],” esboniodd is-reolwr Cymru.
“Wrth gwrs mae’n rhoi cyfle i asesu beth aeth yn dda, a beth ‘da ni angen gweithio arno, felly’r adlewyrchiad yna sydd yn arwain ni ymlaen i’r gêm nesaf.
“Mae ‘na lot o waith wedi cael ei wneud yn barod y tu ôl i’r llenni ar gyfer y gemau nesaf ‘ma ac, wrth gwrs, mae Israel ar y gorwel.
“Ond y gêm yn erbyn Cyprus sydd yn denu’r ffocws ar y funud, ac mae’n rhaid sicrhau ein bod ni yn cael popeth yn gywir ar gyfer y gêm yna oherwydd mae’n gêm enfawr.”
Stori: Jamie Thomas