Stuart Lancaster
Mae Lloegr wedi enwi eu carfan derfynol o 31 chwaraewr ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd sydd yn dechrau fis nesaf.
Y dewis mwyaf yw bod yr hyfforddwr Stuart Lancaster wedi mynd gyda Sam Burgess yn y canol gan olygu nad oes lle i Luther Burrell, ac mae Danny Cipriani hefyd wedi’i adael allan.
Mae’r prop Alex Corbisiero, y clo Dave Atwood, yr wythwr Nick Easter a’r canolwr Billy Twelvetrees hefyd ymysg y rheiny sydd heb gael eu henwi.
Bydd Cymru, sydd yn enwi eu carfan derfynol nhw ar ddydd Llun 31 Awst, yn herio Lloegr yn Twickenham yn eu gêm grŵp ar ddydd Sadwrn 26 Medi.
Mae bechgyn Warren Gatland hefyd yn wynebu Awstralia, Fiji ac Uruguay yn y grŵp, gyda dim ond dau o’r pum tîm yn mynd drwyddo i rownd yr wyth olaf.
Carfan Lloegr
Blaenwyr – Kieran Brookes, Dan Cole, Joe Marler, Mako Vunipola, David Wilson, Jamie George, Rob Webber, Tom Youngs, George Kruis, Joe Launchbury, Courtney Lawes, Geoff Parling, James Haskell, Ben Morgan, Chris Robshaw, Billy Vunipola, Tom Wood
Olwyr – Danny Care, Richard Wigglesworth, Ben Youngs, Owen Farrell, George Ford, Brad Barritt, Sam Burgess, Jonathan Joseph, Henry Slade, Mike Brown, Alex Goode, Jonny May, Jack Nowell, Anthony Watson