Am y tro cynta’ erioed, fe ddefnyddiodd un biliwn o bobol wefan gymdeithasol Facebook o fewn un diwrnod yr wythnos hon.

Ddydd Llun y digwyddodd hynny – ac er mwyn nodi’r ffaith bod un o bob saith o bobol y byd wedi logio i mewn, fe gyhoeddodd Prif Weithredwr y cwmni ar ei dudalen ef ei hun.

Ar y cyfan, mae gan Facebook gyfanswm o 1.5 biliwn o ddefnyddwyr, ac mae’r rheiny’n defnyddio’r wefan beth bynnag unwaith y mis.

Mae’r rhan fwya’ o bobol sy’n defnyddio Facebook, yn byw y tu allan i’r Unol Daleithiau a Chanada.