Fe ddylid haneru Ty’r Arglwyddi, meddai un o’i aelodau amlyca’.

Mae’r Athro a’r Arglwydd Winston hefyd wedi beirniadu’r ffordd o apwyntio aelodau newydd, gan ddweud ei bod yn “anghywir iawn, iawn” ac angen ei diwygio.

Mae’r meddyg a’r darlledwr wedi mynd ymhellach, gan ddweud y dylai’r siambr gael ei lleihau i ddim mwy na 400 o arglwyddi, ac y dylai’r rhai sy’n cael eu hapwyntio fod yno o ran eu gallu yn hytrach nag i ba blaid y maen nhw’n perthyn.

“Y broblem, wrth gwrs, ydi fod Ty’r Arglwyddi yn rhy fawr,” meddai Robert Winston ar raglen Newsnight neithiwr.

“Mae angen newid y ffordd y mae aelodau’n cael eu hapwyntio, oherwydd mae’n anghywir iawn, iawn.”

“Dw i ddim yn meddwl mai ethol aelodau i’r siambr ydi’r ateb chwaith

“Dw i’n meddwl y byddai’r rhan fwya’ ohonon ni’n credu y byddai hanner yr aelodau sydd gyda ni rwan, yn hen ddigon.”