Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi dweud bod llofruddiaeth gohebydd a dyn camera yn ystod darllediad byw ar deledu America yn “dorcalonnus.”
Cafodd y gohebydd gyda sianel deledu WDBJ-TV, Alison Parker, 24, a’r dyn camera, Adam Ward, 27, eu saethu’n farw yn ystod cyfweliad mewn canolfan siopa yn Moneta, Virginia ddoe.
Cafodd dynes arall a oedd yn cael ei chyfweld ar y pryd, Vicki Gardner, ei hanafu yn y digwyddiad.
Roedd y dyn arfog, Vester Lee Flanagan, 41, wedi cael ei gyflogi gan WDBJ-TV cyn cael ei ddiswyddo yn 2013 ar ôl “gwrthdaro cyson” gyda’i gyd-weithwyr.
Roedd wedi saethu ei hun ar ôl cael ei erlid gan yr heddlu a bu farw yn yr ysbyty. Dywedodd yr heddlu bod Flanagan wedi prynu’r gwn yn gyfreithlon.
Dywedodd Barack Obama: “Mae’n torri fy nghalon bob tro rwy’n darllen am ddigwyddiadau o’r fath.
“Yr hyn rydyn ni’n ei wybod ydy bod llawer mwy o bobl yn marw mewn digwyddiadau’n ymwneud a gynnau na sy’n cael eu lladd o ganlyniad i frawychiaeth.”
Mae’r Arlywydd wedi mynegi ei rwystredigaeth oherwydd ei fod wedi cael ei atal rhag newid y rheolau’n ymwneud a gynnau yn yr Unol Daleithiau.