Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn, 38 oed, fu farw brynhawn dydd Mawrth yn dilyn damwain car ger Pencader, Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Deian Davies o Alltwalis ar ôl dioddef anafiadau angheuol yn sgil y ddamwain ar  ffordd y B4459 tua 2.35yp, ddydd Mawrth, 25 Awst.

Roedd yn gyrru car Honda Civic a fu mewn gwrthdrawiad gyda char Citroen Picasso.

Nid oedd unrhyw un arall yn  teithio gydag e far y pryd.

Cafodd gyrrwr y car Citroen Picasso, ei gludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ond mae’n debyg  nad yw ei anafiadau yn rhai difrifol.

Roedd dau berson arall yn teithio yn y Citroen Picasso, ond ni wnaethon nhw ddioddef unrhyw anafiadau yn sgil y ddamwain.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd yng ngorsaf Heddlu Caerfyrddin drwy ffonio 101.