Mae disgwyl i ffigurau mewnfudo newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw fod ar eu lefel uchaf erioed.
Roedd y gyfres ddiwethaf o ddata sy’n dangos ffigyrau mewnfudo i’r DU – sef y gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy’n dod i’r DU a’r nifer sy’n gadael – yn 318,000 yn 2014.
Mae hynny’n golygu mai cynnydd cymedrol iawn fyddai ei angen i ragori ar y ffigwr uchaf erioed – sef 320,000 yn ystod y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Mehefin 2005.
Mae hynny er i’r Llywodraeth gyhoeddi uchelgais o ddod a’r ffigwr yn is na 100,000.
Mae disgwyl hefyd i’r ystadegau ddangos bod nifer y bobl yn y DU a gafodd eu geni dramor wedi codi’n uwch na wyth miliwn am y tro cyntaf.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd gweinidogion y Llywodraeth fanylion y Mesur Mewnfudo newydd.
O dan y cynlluniau, gallai mewnfudwyr sy’n cael eu dal yn gweithio’n anghyfreithlon yn y DU gael eu carcharu am hyd at chwe mis a gallai siopau bwyd tecawe a bwytai wynebu cael eu cau os ydyn nhw’n cyflogi mewnfudwyr anghyfreithlon.
Mae’n dod yn sgil yr argyfwng yn Calais sydd wedi gweld miloedd o ymfudwyr a ffoaduriaid yn ceisio croesi’r Sianel drwy gydol yr haf.
Yr wythnos diwethaf, canfu arolwg fod un o bob tri o Brydeinwyr yn credu mai mewnfudo yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu’r wlad.